* * 
Hafan | English | Cymraeg
*  Ynni Pren | Buddion | Cysylltiadau | Cofrestru   * *
                                 
* Croeso     *
*  

Daw cyfnod presennol y Cynllun Busnes Ynni Coed (neu WEBS) i ben ar 31 Mawrth 2008. Hoffai Comisiwn Coedwigaeth Cymru ddiolch i bawb a chwaraeodd ran am eu gwaith caled ac ymroddiad wrth droi WEBS yn llwyddiant mawr.

Byddwch yn falch o glywed bod Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd i ddatblygu cynllun dilynol, yn amodol ar argaeledd y cyllid hanfodol. Ei nod fydd cefnogi'r sector tanwydd coed sy'n ymddangos sy'n ehangach ei gwmpas na'r cynllun gwreiddiol.

Y cynnig yw asesu'r gadwyn gyflenwad gyfan o ddethol safleoedd ar gyfer plannu coed newydd neu adfer a throsi coetiroedd presennol i brosesu asglodion coed a chynhyrchu tanwydd sy'n ychwanegu gwerth megis pelenni. Byddai cymorth grant ar gyfer costau cyfalaf gwres coed ac offer gwres a phŵer cyfunedig yn parhau er mwyn parhau i ysgogi galw. Nod allweddol unrhyw gynllun newydd fyddai annog datblygu'r gadwyn gyflenwi coed a rheoli coetiroedd Cymru nad ydynt yn cael eu rheoli'n ddigonol.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) wedi cyflwyno ei gynllun busnes drafft i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer cynllun grant newydd, a fydd yn parhau hyd 2013 o leiaf. Nid ydym yn gallu rhoi manylion y cynnig i chi ar hyn o bryd ond, i'r rhai ohonoch sy'n gyfarwydd â'n cynllun diwethaf, gallwn ddweud y bydd y cynllun newydd yn debyg mewn rhai agweddau. Fodd bynnag, os a phan fydd y cynllun busnes yn cael ei gymeradwyo, bydd angen i ni sefydlu tîm newydd i weinyddu'r cynllun newydd, a bydd hyn yn golygu na fydd yn cychwyn ar ei union. Byddaf yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau yn ystod y misoedd nesaf drwy e-bost a bydd y newyddion diweddaraf am ein cynnydd yn ymddangos ar y dudalen hon.

Os hoffech wybod am ddatblygiadau yn y dyfodol, mae pob croeso i chi gwblhau'r ffurflen gofrestru uchod. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y cawn unrhyw wybodaeth.


Cofion cynnes
Y Tîm WEBS
Tachwedd 2008

*
* * * * *
*  Ynni Pren Cynllun Busnes,
 Email:
woodenergybusiness@forestry.gsi.gov.uk
*